Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
26 Ebrill 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12810
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.31
3 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Covid-19 - TYNNWYD YN ÔL
4 Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin
Dechreuodd yr eitem am 14.58
5 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllun Adfer Gofal wedi’i Gynllunio
Dechreuodd yr eitem am 15.39
6 Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cyflawni ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ariannu rhagor o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu
Dechreuodd yr eitem am 16.23
7 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Therapi Trosi
Dechreuodd yr eitem am 16.48
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog
Dechreuodd yr eitem am 17.07
NNDM7985 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal dros dro y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad a'r cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM7983 a NNDM7984 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ar 26 Ebrill 2022.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2022
Dechreuodd yr eitem am 17.07
NNDM7983 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ebrill 2022.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2022
Dechreuodd yr eitem am 17.11
NNDM7984 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2022 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Ebrill 2022
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
10 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Iaith Arwyddion Prydain
Dechreuodd yr eitem am 17.21
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7981 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil Iaith Arwyddion Prydain i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mawrth 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Bil Iaith Arwyddion Prydain (Saesneg yn unig)
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
11 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig.
11 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal
Dechreuodd yr eitem am 17.38
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7982 Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Iechyd a Gofal sy’n ymwneud â thrafodion masnachol mewn organau i’w trawsblannu: troseddau alldiriogaethol, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Ebrill 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Bil Iechyd a Gofal (Saesneg yn unig)
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
11 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig.
Derbyniwyd y cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y ddwy eitem canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân.
12 Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pwer i Addasu)
Dechreuodd yr eitem am 17.51
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7986 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
1. Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu).
Gosodwyd Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 13 Rhagfyr 2021.
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Fil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) gerbron y Senedd ar 8 Ebrill 2022.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
1 |
26 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig.
13 Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pwer i Addasu)
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7987 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
1 |
26 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig.
14 Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2020-21
Dechreuodd yr eitem am 18.35
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at ganfyddiadau Estyn y "daeth y rhaniad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a mwy breintiedig yn amlycach dros gyfnod y pandemig."
Yn credu y bydd y gwahaniaethau a amlinellir yn yr adroddiad yn cael eu gwaethygu ymhellach gan yr argyfwng costau byw ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag Estyn i gynyddu ymdrechion i sicrhau bod mesurau i gefnogi plant o gefndiroedd difreintiedig mewn ysgolion yn cael eu gweithredu ar frys.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
NDM7980 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2020-21 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Ebrill 2022.
2. Yn croesawu'r ffaith bod yr adroddiad yn cydnabod gwydnwch a dyfalbarhad y gweithlu addysg a sut y maent wedi bod yn hyblyg, yn greadigol ac wedi addasu mewn ffyrdd arloesol i gefnogi dysgwyr.
3. Yn croesawu'r ffaith ‘y rhoddodd yr holl ddarparwyr flaenoriaeth i les eu dysgwyr’ a’u bod yn parhau i gryfhau cysylltiadau gyda theuluoedd a chymunedau.
4. Yn nodi na ddylem ddiystyru effaith y pandemig ar les dysgwyr, staff ac arweinwyr.
5. Yn gresynu at ganfyddiadau Estyn y "daeth y rhaniad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a mwy breintiedig yn amlycach dros gyfnod y pandemig."
6. Yn credu y bydd y gwahaniaethau a amlinellir yn yr adroddiad yn cael eu gwaethygu ymhellach gan yr argyfwng costau byw ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag Estyn i gynyddu ymdrechion i sicrhau bod mesurau i gefnogi plant o gefndiroedd difreintiedig mewn ysgolion yn cael eu gweithredu ar frys.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 19.12 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.
15 Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 19.18
Daeth y cyfarfod i ben am 19.22
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 27 Ebrill 2022